Mae’r llongau’n disgwyl: mi ân’ cyn hir i’w hynt,
A dod yn eu holau ar gyfri’r tywydd mawr.
Eith chwe mis heibio, a dof innau’n ôl
Ac yna ymadael eto am chwe mis.
Daw pawb yn ôl, heblaw ein gwir gyfeillion,
A’r genod gorau a garwn, y rhai ffyddlonaf;
Pawb ond y rhai yr hiraethwn fwyaf amdanynt;
Ni chredaf mewn ffawd, ni chredaf ynof fy hun.
Ond mi garwn gredu nad felly y mae hi go iawn,
Ac y bydd llosgi llongau yn mynd o’r ffasiwn cyn hir.
Mi ddof yn ôl yn fy ffrindiau ac mewn breuddwydion;
Mi ganaf, a hynny yn sicr cyn pen chwe mis.
|