Nid oes ffordd arall ond mynd yn ein holau I ddwndwr y ddinas ac i’r ffrwd gerbydau; Mi ddown ni i gyd i lawr o’r mynyddoedd a drechwyd; Gadael y mynyddoedd, a’n calon yn y mynyddoedd. Rhowch o’r neilltu’ch holl ddadleuon dibwys, Achos mi wn yn burion erbyn hyn: Dim ond mynyddoedd sydd yn well na mynyddoedd, Y mynyddoedd lle na fuom erioed o’r blaen. Pwy sy’n mynnu bod ei hun yn ei helbul? Pwy sydd am ymadael yn groes i’r galon? Mi ddown i gyd i lawr o’r copaon a drechwyd; Mi ddaeth y duwiau hyd yn oed i lawr. Rhowch o’r neilltu’ch holl ddadleuon dibwys, Achos mi wn yn burion erbyn hyn: Dim ond mynyddoedd sydd yn well na mynyddoedd, Y mynyddoedd lle na fuom erioed o’r blaen. Y geiriau, y dyheadau a’r caneuon; Deffrodd y mynydd ni, a dweud am aros. Ond i lawr yr awn ni, am flwyddyn neu am byth. Oherwydd mynd yn ôl sydd raid i ni. Rhowch o’r neilltu’ch holl ddadleuon dibwys, Achos mi wn yn burion erbyn hyn: Dim ond mynyddoedd sydd yn well na mynyddoedd, Y mynyddoedd lle na fuom erioed o’r blaen.
© Twm Morys. Cyfieithu, 2014